Lleoliad:
Fideo Gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 2 Rhagfyr 2020
Amser:
09.02 -
12.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6450
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS Jayne Bryant AS Andrew RT Davies AS Lynne Neagle AS David Rees AS |
Tystion: |
Sue Phelps, Cymdeithas Alzheimer Cymru Heather Ferguson, Age Cymru Heléna Herklots, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru Rachel Cable, Oxfam Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Amy Clifton (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru ac Age Cymru
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gymdeithas Alzheimer's Cymru ac Age Cymru.
2.2 Cytunodd Sue Phelps, Cyfarwyddwr Gwlad, Cymdeithas Alzheimer Cymru i sicrhau bod copi o'u hadroddiad ‘Worst hit: dementia during coronavirus’ ar gael i'r Aelodau.
3 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
4 COVID-19: Sesiwn dystiolaeth gydag Oxfam Cymru
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Oxfam Cymru.
5 Papurau i’w nodi
5.1 Llythyr at y Cadeirydd gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynghylch y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
7 Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru: Adroddiad 2 - Yr effaith ar iechyd meddwl a llesiant: Trafod yr adroddiad drafft
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft yn amodol ar rai diwygiadau a fydd yn cael eu trafod yn y cyfarfod yr wythnos nesaf.
8 Darparu gofal iechyd a gofal cymdeithasol ar yr ystâd carchardai i oedolion: Trafod y llythyr drafft
8.1 Trafododd y Pwyllgor yr llythyr a chytunodd arno.